Carafanau Teithiol a Phebyll


Touring Caravans and Motorhomes


Mae gennym le i hyd at 20 o garafannau teithiol / cartrefi modur. Mae gan bob un o'r safleoedd gyda chysylltiad trydanol (16amp). Lleolir y safleoedd hyn o fewn dau gae gwahanol.


Mae 12 safle aml dywydd ar gael. Mae gan bob safle olygfa wahanol gyda rhai hefo golygfeydd syfrdanol o Fae Ceredigion.


Cynghorir eich bod yn archebu safle o flaen llaw ar gyfer carafannau teithiol / cartrefi modur.



Cyfleusterau


Ceir tapiâu dŵr yfed ar draws y safle.


Mae'r cyfleusterau ymolchi / toiled yn fodern ac wedi ei leoli  mewn lleoliad canolog. Mae cawodydd poeth ac oer (sydd yn rhad ac am ddim), sychwr gwallt / socedi trydannol (menywod yn unig). Ceir ystafell deuluol / anabl.


Mae lle pwrpasol i baratoi bwyd a golchi llestri. Ceir hefyd peiriant golchi a sychu dillad.


Rydym yn ceisio ein gorau i gynyddu swm o wastraff sydd yn cael ei ailgylchu,  gofynnir yn garedig bod yr holl wastraff y gellir ei ailgylchu gael ei roi yn y biniau priodol.


Gofynwn i chi geisio eich gorau i leihau y gwastraff na ellir ei ailgylchu. Dylid rhoi unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu yn y biniau gwyrdd (gwastraff cyffredinol). 

Gwersylla


Mae'r maes gwersylla wedi ei leoli mewn cae ar wahân gerllaw'r maes carafannau teithiol.


Mae gennym 5 safle gyda chyswllt trydanol. Argymhellir eich bod yn archebu rhain o flaen llaw yn enwedig yn ystod cyfnodau prysyr. 


Mae digon o le ar gael ar gyfer pebyll o wahanol siâp a meintiau. Mae'r holl safleoedd gwersylla nad oes angen cyswllt trydannol ar gael ar y sail y cyntaf i'r felin.


Rydym yn caniatáu i geir gael eu parcio wrth ymyl y pebyll.


 

Gwybodaeth Gyffredinol



Safle bach cyfeillgar ydym wedi ei leoli ar fferm deuluol a'n nod yw bod pob ymwelydd yn mwynhau eu harhosiad gyda ni.


Gofynnwn felly i bawb barchu eraill a sicrhau bod lefelau sŵn yn cael eu cadw'n isel drwy'r amser.


Rydym yn croesawu cŵn (uchafswm o 2 gi i pob safle) - rhaid eu cadw ar dennyn drwy'r amser.


Caniateir barbeciws siarcol a nwy, dylai gwersyllwyr gymryd pob gofal tra yn defnyddio'r cyfarpar hyn.


Mae pob safle ar gael ar ôl 1.00pm ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd.


Sylwer - rhaid gadael pob safle cyn 11.00am ar y ddiwrnod olaf eich gwyliau, Gellir ystyried ceisiadau i aros yn hwyrach yn ystod cyfnodau tawel, ond rhaid trafod a chytuno ar hyn ymlaen llaw (efallai y bydd tâl ychwanegol yn daladwy).

Adolygiadau


''Safle gwych. Perchennog cyfeillgar a chymwynasgar. Gwerth da am arian. Golygfeydd gwych i gael o'r safle. Roedd yr holl gyfleusterau'n cael eu cadw'n lân. Pob cawod, dŵr poeth wedi'i gynnwys yn y pris. Byddwn i yn argymell y lle.  Byddwn yn ymweld a'r safle hwn yn flynyddol'.

IMG_1342
IMG_4770a