Llety Gwyliau Hunan-Ddarpar a Carfan Statig

Tŷ Cerrig


Mae Tŷ Cerrig yn hen dyddyn o'r 19eg ganrif sydd wedi ei adnewyddu yn llwyr. Mae'r eiddo mewn mewn lleoliad gwych i wneud y gorau o draethau ac i weld machlud yr haul. Mae taith gerdded  - tua milltir o'r ty yn mynd a chi i ganol traethau godidog Morfa Dyffryn (sydd yn daith 2 filltir gyda char). Mae'r siopau lleol tua 200 o Dy Cerrig.


Llawr Gwaelod

Mae ystafell fyw gyfforddus gyda chwaraewr DVD teledu, lle tân coed. Mae'r gegin yn cynnwys offer cogionio angenrheidiol, gan gynnwys microdon, peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell. Mae cyntedd, ystafell gotiau/WC ac ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi a sychwr dillad.


I fyny'r grisiau

2 ystafell wely ddwbl ac un ystafell wely gyda bync. Ystafell ymolchi fawr gyda toiled uned gawod a bath.


Yr ardd

Ceir gardd eithaf mawr gyda digon o le i blant chwarae o gwmpas yn ddiogel, mae dodrefn gardd i chi eistedd a mwynhau golygfeydd o'r arfordir.


Manylion yr eiddo

Cysgu  6 + Cot (angen dillad gwely eich hunain)

Anifeiliaid Anwes - Na

Ysmygu - Na

Tyweli - Ar Gael

Dillad Gwely - Ar Gael

Cadair Uchel - Ar Gael

Lle Parcio - Ar Gael

Gellir llogi'r eiddo drwy glicio ar y linc canlynol


Carafan Statig i'w Llogi


Mae gan ein carafán statig dwy ystafell wely ac wedi'i lleoli mewn rhan tawel ar y fferm. Mae golygfeydd ardderchog o Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn. Mae'r garafán yn cynnwys yr offer angenrheidiol ac yn cynnwys gwres, oergell, popty a theledu lliw.


Er mwyn osgoi y risg o ledaenu COVID gofynwn i gwsmeriaid ddod a dillad gwely eu hunain eto eleni.

Ysgubor Newydd


Mae bwthyn gwyliau Ysgubor Newydd wedi ei drosi o hen ysgubor gerrig a hynny i'r safon gorau bosib. Mae'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer gwyliau gwerth chweil. Mae'r lleoliad yn arbennig iawn gyda golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.


Wedi'i osod ar un llawr, daw'r holl ystafelloedd oddi ar goridor canolog sy'n rhedeg ar hyd y bwthyn gyda'r gegin ar un pen a'r llofftydd yr ochr arall. Y gegin yw canolbwynt y bwthyn; mae popeth sydd ei angen arnoch yma ynghyd ag offer cegin angenrheidiol. Mae'r unedau gegin derw yn rhoi teimlad cartrefol ac mae'r bwrdd bwyta solet a'r cadeiriau yn ychwanegiad perffaith ar gyfer cael pawb at ei gilydd i gael prydau bwyd.


Mae'r ystafell haul sy'n arwain o'r gegin gyda golygfeydd syfrdanol ac o bosib yma byddwch yn ymlacio gyda jin a thonig i weld machlyd yr haul.


Mae dwy ystafell wely; un dwbl ac un gyda 2 wely sengl. Mae'r ddwy ystafell wedi'u haddurno i'r safon uchaf, mae'r blancedi a'r clustogau yn ychwanegu at deimlad clyd yr eiddo. Mae'r golygfeydd o'r ddwy ystafell yn anhygoel; cewch ddeffro i olygfa'r môr - be gwell! Mae un ystafell ymolchi gyda chawod dros fâth, toiled a sinc ymolchi.


Mae tu allan yr eiddo hefyd o'r safon uchaf bosib, mae digon o le agored ynghyd ag ardal patio wedi ei amgau, ble gallwch eistedd allan a bwyta alfresco, neu eistedd a mwynhau y tawelwch a'r llonyddwch.


Manylion yr eiddo

Cysgu -  4 + cot

Anifeiliaid Anwes  - Na

Ysmygu  - Na

Dillad Gwely  - Ar Gael

Tyweli - Ar Gael

Cot a Chadair Uchel - Ar Gael


Gellir archebu yr eiddo drwy gysylltu â: Dioni

Adolygiad


"We stayed for a week in the May bank holiday weekend with 2 kids under 10 and baby. Having stayed in a few cottages before, this one was probably the best so far. The cottage was very clean and tidy. To top it off the owner left a nice homemade cake and flowers for us.

There are many places to visit. Good beaches include Barmouth, Shell Island, Harlech and Morfa Bychan. Harlech Castle was good and also the steam train at Fairbourne. Ffestiniog Steam railway is supposed to be good but we never had time for that.

Sunset views and on a clear day you can see the blue sea and mountains/hills."